Amdanom ni

Amdanom ni

Syniad Steffan Rees, hyfforddwr carate o Ynys-hir, Rhondda oedd Play It Again Sport. Sylweddolodd fod cost y cyfarpar yn golygu bod llawer o rieni yn methu fforddio anfon plant i’w ddosbarthiadau. Roedd hefyd yn ymwybodol bod gan lawer o bobl gyfarpar a dillad nad oeddent bellach yn eu defnyddio neu nad oedd arnynt eu heisiau, yn hel llwch yn eu tai.

Dod â’r ddau beth at ei gilydd oedd ei syniad. Derbyn rhoddion o hen ddillad chwaraeon, a’u gwerthu am bris gostyngol i’r rheiny yr oedd arnynt eu hangen. Dyna sut y daeth Play It Again Sport i fodolaeth.

Bedair blynedd yn ddiweddarach, mae gennym finiau casglu ledled Rhondda Cynon Taf – ym mhob canolfan hamdden, yng Nghaerdydd yn Chwaraeon Cymru, yng nghampfa DW Sports, ac, mewn cydweithrediad ag Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen, yng nghanolfannau hamdden Cwmbrân a Phont-y-pŵl – mae rhestr lawn o’r safleoedd rhoddion ar gael yma.

previous arrow
next arrow
Shadow
Slider

Gyda’r arian sy’n cael ei godi o’r gwerthiannau, mae Play It Again Sport yn ariannu ac yn cefnogi grwpiau lleol sy’n darparu gweithgareddau chwaraeon i bobl leol. Mae rhagor o wybodaeth am y prosiectau yr ydym wedi gweithio gyda nhw ar gael ar ein tudalen blog.

Rydym yn hapus iawn i gymryd casgliadau mawr – rydym wedi gweithio gyda ParkRun a Hanner Marathon Caerdydd trwy gymryd eu dillad diangen a’i rhoi i’r rhai y mae arnynt eu hangen.

Rydym hefyd yn cynnig cynllun atgyfeirio, lle gall ysgolion, gweithwyr cymdeithasol a hyfforddwyr chwaraeon wneud cais am ddillad a chyfarpar ar gyfer unigolion a fyddai, fel arall, yn methu cymryd rhan mewn chwaraeon – cysylltwch â ni’n uniongyrchol i gael rhagor o fanylion, ond nodwch fod hyn y dibynnu ar yr eitemau sydd ar gael.

Mae Play It Again Sport yn fenter gymdeithasol, ac mae’n cael ei chefnogi gan yr elusen Pobl a Gwaith ar hyn o bryd.